1. Moliannu’r Arglwydd da iawn yw,a chyfarch Duw yn bennaf:A chanu i’th enw di fawl,a’th ganmawl (y Goruchaf.)
2. Y borau am dy drugaredd,a’th wirionedd son y nos,
3. Ar ddectant, nabyl, a thelyn,myfyrio hyn a’i ddangos.
4. Sef drwy dy weithred llawen wyf,ynnyn nwyf yn fy Nuw Naf:Yngwaith dy ddwylaw fy Nuw Ior,beunydd y gorfoleddaf.
5. Dy weithredoedd ond mawrion ynt?
6. Dy helynt nis gwyr anghall:Dy feddyliau o ddyfn iawn fryd,hyn nis gwyr ynfyd ddeall.
7. Pan flodeuo yr enwir ddyn,megis llyseuyn iraidd,Pan fo drygweilch yn gref eu plaid,Duw yno rhaid eu diwraidd.Y drwg flagur uchel yr ânt,a hwy a syrthiant beunydd:
8. Tithau yr Arglwydd yn ddigel,wyt uchel yn dragywydd.
9. O Arglwydd wele d’elynion,dy gaseion difethir:A holl weithredwyr trais a cham,yn ddinam a wasgerir.
10. Tydi a dderchefi fy nghorn,fel yr unicorn perffaith.Hefyd â gwerthfawr olew ir,i’m taenellir i eilwaith.
11. Fy llygaid a welant hefyd,fy ngwynfyd o’m gelynion.A’m clustiau a glywant ar frysf’ewyllys am ddrwg ddynion.
12. Y cyfion blodeua i’r nen,fal y balmwydden union,Cynnyddu yn iraidd y bydd,fel cedrwydd yn Libanon.
13. Y rhai a blannwyd yn nhy Dduw,yn goedwyrdd byw y tyfant,Ac ynghynteddau ein Duw niy rhei’ni a flodeuant.
14. A dwyn eu ffrwyth a wnant o faint,yn amser henaint etto,Tirfion, iraidd, a phrofadwya fyddant hwy yn hilio.
15. I ddangos nad traws, ac nad camyw f’Arglwydd a’m cadernyd,Ac nad oes yntho na chamwedd,na dim anwiredd hefyd.