1. Na ddala ddrygdyb yn dy ben,nac o gynfigen ronyn,Er llwyddo’r enwir, a wnai gam:cai weled llam yn canlyn.
2. Sef hwy a dorrir fel gwellt glâs,neu lysiau diflas gwywon:A hwy a grinant yn ddilwydd,a hynny’n ebrwydd ddigon.
3. Cred yn yr Arglwydd, a gwna dda,gobeithia yr hyn gorau:Bydd ymarhous yn y tir,di a borthir yn ddiau.
4. Bydd di gysurus yn dy Dduw,di a gei bob gwiw ddymuniad:
5. Dy ffyrdd cred iddo, yn ddilysfe rydd d’ewyllys attad.
6. Cred yntho ef, fo’th ddwg i’r lann,myn allan dy gyfiownder:Mor olau a’r haul hanner dydd,fal hynny bydd d’eglurder.
7. Ymddiried i Dduw, disgwyl, taw,a heb ymddigiaw gronyn:Er llwyddo’i ddrygddyn ei fawr fai,yr hwn a wnai yn gyndyn.
8. Paid â’th ddig, na ofidia chwaith:gad ymaith wyllt gynddaredd:Rhag i hynny dyfu i fod,yn bechod yn y diwedd.
9. Oherwydd hyn, disgwyl yr Ion,gwyl ddiwedd dynion diffaith:A disgwyl ef: meddianna’r tir,a’r drwg f’oi torrir ymaith.
10. Goddef y drygddyn dros dro bâch,ni welir mwyach honaw,Ti a gai weled y lle y bu,heb ddim yn ffynnu ganthaw.
11. Ond y rhai ufydd a hawddgâr,y ddaiar a feddiannant:Ar rhei’ni a thagnhefedd hir,diddenir yn eu meddiant.
12. Bwriada’r drygddyn o’i chwerw ddaint,ar ddrygu braint cyfiownddyn:
13. Duw yn ei watwar yntau a fydd,sy’n gweled dydd ei derfyn:
14. Ynnylu bwa, tynnu cledd,yw trowsedd yr annuwiol,Er llâdd y truan: fel dydd brawd,i’r tlawd a’r defosionol.
15. Ei fwa torrir yn ddellt mân,a’i gledd a â’n ei galon:
16. Mawr yw golud yr ysceler,ond gwell prinder y cyfion.
17. Yr Arglwydd a farn bob rhyw fai,tyr freichiau’r rhai annuwiol,Ac ef a gynnail yn ddi ddig,y cyfion, ystig, gweddol.
18. Sef ef edwyn Duw ddyddiau,a gwaith pob rhai o berffaith helynt:Ac yn dragywydd Duw a wnaeth,deg etifeddiaeth iddynt.
19. Efe a’i ceidw hwynt i gyd,na chânt ar ddrygfyd wradwydd:Amser newyn hwyntwy a gânt,o borthiant ddigonolrwydd.
20. Y rhai traws enwir, heb ddim cwyn,fel brasder wyn a doddant:Caseion Duw fydd dynion drwg,hwy gyda’r mwg diflannant.
21. Y gwr annuwiol a fyn ddwynyn echwyn, byth ni thalai:A’r gwr cyfion trugarog fydd,ac a rydd, nis gommeddai.
22. Sawl a fendigo Duw (yn wir)y tir a etifeddan:A’r rhai a felldithio, o’r tiri gyd a fwrir allan.
23. Duw a fforddia, ac a hoffa,hyffordd y gwr calonnog:
24. Er ei gwympo efe ni friw,fo’i deil llaw Dduw ’n sefydlog.
25. Aethym i bellach yn wr hen,bum fachgen ’rwy’n cydnabod:Ni welais adu hâd gwr da,na cheisio’i bara ’ngherdod.
26. Echwyn a benthyg cair bob dydd,trugarog fydd y cyfion:A'i hâd ef drwy y nefol wlith,a gaiff o’i fendith ddigon.
27. Arswyda ddrwg, a gwna di dda,a chyfanedda rhag llaw:
28. Cans Duw a gâr y farn ddidwn,ninnau a roddwn arnaw.Nid ymedy efe â’i Saint,ceidw heb haint y rhei’ni:Ond hâd yr annuwiolion gaua ddont i angau difri.
29. Y ddaear caiff y cyfion gwyl,lle y preswyl byth mewn iawndeb:
30. A’i enau mynaig wybodaeth,a’i dafod traeth ’ddoethineb.
31. Deddf ei Dduw y sydd yn ei fron,a’i draed (gan hon) ni lithrant:
32. Dyn drwg a ddisgwyl lâdd y da,ond ni chaiff yna ffyniant.
33. Ni âd yr Arglwydd (er ei gais,nac er ei falais lidiog:)Y gwirion yn ei waedlyd law,i hwn ni ddaw barn euog.
34. Gobeithia yn yr Arglwydd tau,a chadw ei llwybrau’n gywir:Cei feddiannu, cei uwch o radd,a gweled lladd yr enwir.
35. Gwelais enwir yn llym ei big,a’i frig fel gwyrddbren lawri:
36. Chwilais, a cheifiais yr ail tro,’r oedd efo wedi colli.
37. Ystyria hefyd y gwr pur,ac edrych du’r cyfiownedd:Di a gei weled cyfryw ddyn,ma’i derfyn sydd tangnhefedd.
38. A gwyl y rhai drwy drais sy’n byw,ynghyd i ddistryw cwympant:Fe a ddiwreiddir plant y fall,i ddiwedd gwall, a methiant.
39. Iechyd y cyfion sy o Dduw Ner,a’i nerth mewn amser cyffro:
40. Cymorth, ceidw, o ddrwg y tynn,a hyn am gredu yntho.