1. Dedwyddol yw mewn buchedd dda,y sawl a ofna’r Arglwydd:A’i orchymynion anwyl ynt,bydd iddo helynt hylwydd.
2. Ei hâd fydd nerthol yn y tir,bendithir hil rhai union:
3. Golud a chyfoeth yn ei dy,tros byth y pery’n gyfion.
4. Yr union yn y tywyll caucaiff fodd i olau weled:Ystyriol a thosturiol iawn,a chyfiawn fydd ei weithred.
5. Gwr da a fydd trugarog fwyn,rhydd echwyn a chymwynas:A’i air mewn pwyll a barn a rydd,a’i weithred sydd yn addas.
6. Ni ’sgogir byth y cyfiawn, gwnaei goffa yn dragywydd:
7. A chalon ddisigl, ddwys, ddiofn,a sail ddofn yn yr Arglwydd.
8. Hwn yn nerth Duw diofnog fydd,ac atteg sydd iw galon:Hyd oni chaffo drwy lawn wys,ei wyllys o’i elynion.
9. Rhannodd a rhoes i’r tlawd yn hy,byth pery ei gyfiownedd:A chryfder ei goron yn wir,dyrchefir mewn gogonedd.
10. Yr anwir edrych, ffromma o ddig,drwy ffyrnig ysgyrnygiad:Yr annuwiol a dawdd: fal hynfydd terfyn eu dymuniad.