1. O Arglwydd, yn dy nerth a’th rin,mae’r brenin mewn llawenydd:Ac yn dy iechyd, yr un wedd,mae ei orfoledd beunydd.
2. Holl ddeisyfiad ei galon lân,iddo yn gyfan dodaist:Cael pob dymuniad wrth ei fodd,ac o un rhodd ni phellaist.
3. Cans da’r achubaist ei flaen ef,a doniau nef yn gyntaf:Ac ar ei ben, (ddaionus Ion,)rhoist goron aur o’r puraf.
4. Ef a ofynnodd gennyd oes,a rhoddaist hiroes iddo:A hon dy rodd, dros byth y bydd,nid a’n dragywydd heibio.
5. I’th iechydwriaeth y mae’n byw,a mawr yw ei ogoniant:Gosodaist arno barch a nerth,a phrydferth yw ei llwyddiant.
6. Rhoist dy fendithion uwch pob tawl,yn rhodd dragwyddawl iddo:A llewych d’wyneb byth a fydd,yn fawr lawenydd arno.
7. Am fod y brenin yn rhoi’i gred,a’i ’mddiried yn yr Arglwydd:Dan nawdd y Goruchaf tra fo,gwn na ddaw iddo dramgwydd.
8. A thydi Arglwydd a’th law lan,cei allan dy elynion:Rhag dy ddeheulaw (er a wnant)Ni ddiangant dy gaseion.
9. Di a’i gosodi’n nydd dy ddig,fel ffwrnais ffyrnig danllyd:Yr Arglwydd iw lid a’i difa,a’r tân a’i hysa’n enbyd.
10. Diwreiddi dieu ffrwyth o’r tir,a’i had yn wir ni thyccian:
11. Am fwriadu yt ddrwg ddilen,heb ddwyn i ben mo’i hamcan.
12. Ti a’i gosodi hwy’r naill du,a thi a’th lu iw herbyn:Ac a lefeli dy fwau,at eu hwynebau cyndyn.
13. Ymddercha dithau f’Arglwydd, gun,i’th nerth dy hun a’th erfid:Ninnau a ganwn, o’n rhan ni,i foli dy gadernid.