1. Fy enaid mola’r Arglwydd byw,o f’Arglwydd Dduw y mawredd,Mawr wyt, gogoniant a gai di,ymwisgi ag anrhydedd.
2. Megis ei ddillad y gwisg foam dano y goleuad:Rhydd yn ei gylch yr wybr ar dân,yn llydan, fel llen wastad.
3. Ar ddeifr rhoes sail ei stefyll cau,gwnaeth y cymylau iddoYn drwn olwynog: mae ei hyntuwch esgyll gwynt yn rhodio.
4. Gwnaeth bob chwythad iddo’n gennad,gogonedd y ffurfafen:A'i weinidogion o fflam dân,a wibian rhyd yr wybren.
5. Cref y rhoes sail y ddaiar gron,fel na syfl hon oddiyno:Yr hon a bery fel y rhoes,o oes i oes, heb siglo.
6. Tydi (Dduw) a ddilledaist honâ’r eigion yn fantellau,Ac oni bai dy ddehau law,ai’r deifr uwchlaw y bryniau.
7. Gan dy gerydd maent hwy yn ffo,fel pan y synio taran:Drwy fraw a brys ar hyd y ddol,y deifr iw hol a lithran.
8. Weithiau y codai’r deifr yn fryn:weithiau fel glyn panhylent,Lle y trefnaist iddynt bannwl cau,ac weithiau y gorphwysent.
9. Gosodaist derfyn lle yr arhont,ac fel nad elont drosto:Ac na ddelont hwy fyth dros lawry ddaiar fawr, iw chuddio.
10. Rhoes Duw ffynnon i bob afon,a phawb a yfant beunydd:A rhed y ffrydau rhyd y glynn,a rhwng pob bryn a’i gilydd.
11. Yfant yno anfeiliaid maes,assynnod myng-laes gwylltion,Heb ymadael a llawr y nant,hyd onid yfant ddigon.
12. Ac adar awyr dont gar llaw,i leisiaw rhwng y coedydd:Yn canu ei fawl o bren i bren,cethlyddiaeth lawen ufydd.
13. Dwfr ar fynyddoedd lle ni ddaw,fo wlych â glaw oddiarno:A’r gwastad tir efe a’i gwlych,bob grwn a rhych i ffrwytho.
14. Parodd i’r gwellt dyfu wrth raidanifeiliaid: a’r llysiau,Er da i ddyn: Lle rhoes o’r llawr,ymborthiant mawr rhag angau.
15. A gwin llawena calon dyn,ag olew tywyn wyneb.A bara nerthir calon gwr,mewn cyflwr digonoldeb.
16. Preniau’r Arglwydd o sugn llawn,o’i unic ddawn y tyfan.Sef y coed cedrwydd brigog mawr,a roes e’n llawr y Liban.
17. Lle y mae nythod yr adar mân,mewn preniau glân cadeir-ir:Lle mewn ffynnidwydd glwyswydd glyn,mae ty’r aderyn trwynhir.
18. Y mynydd uchel a’r bryn glâs,yw llwybr y danas fychod:Ogof y doll-graig a wna les,yn lloches i’r cwningod.
19. Fe roes i’r lleuad i chwrs clau,a’i chyfnewidiau hefyd:A’r haul o amgylch y byd crwn,fo edwyn hwn ei fachlyd.
20. Tywyllwch nos a roed wrth raid,i fwystfiliaid y coedydd.
21. Y llewod rhuant am gael maethgan Dduw, ysclyfaeth bennydd.
22. A chwedi cael yr ymborth hyn,pan ddel haul attyn unwaith,Ymgasglant hwy i fynd iw ffau,ac iw llochesau eilwaith.
23. Y pryd hwn cyfyd dyn iw waith,ac iw orchwyliaith esgyd:Ac felly yr erys tan yr hwyr,lle y caiff yn llwyr ei fywyd.
24. O Dduw, mor rhyfedd yw dy waitho’th synwyr berffaith dradoeth!Gwnaethost bob peth â doethder dawn,a’r tir sy lawn o’th gyfoeth.
25. A’r llydan for, y deifr ymmysg,lle aml yw pysc yn llemmain:Lle yr ymlusgant, rif yr od,bwystfilod mawr a bychain.
26. Yno yr â llongau glândros y Leuiathan heibo.Yr hwn a osodaist di, lle y maeyn cael ei chwrae yntho.
27. Hwynt oll disgwiliant yn ei brydam gael oddiwrthyd borthiant:I gael dy rodd ymgasglu ynghyd,ie am ei bywyd byddant.
28. Duw, pan agorech di dy law,oddi yno daw daioni:Pob anifail a phob rhyw beth,a ddaw yn ddifeth ini.
29. Pan guddiech di dy wyneb pryd,a chasglu d’yspryd allan,Crynant, trengant, ac ant iw llwch,mewn diwedd trwch a thwrstan.
30. Duw, pan ollyngech di dy râd,fel rhoddi cread newydd,Y modd hyn wyneb yr holl dira adnewyddir beunydd.
31. Yr Arglwydd gogoneddus fydddrwy fawr lawenydd bythoedd.Yr Arglwydd yn ddiau a fedd,orfoledd yn y nefoedd.
32. Ein Duw o’r nef a edrych ary ddayar, a hi a dychryn.Os cyffwrdd a’r mynyddoedd draw,y mwg a ddaw o honyn.
33. Canaf i’r Arglwydd yn fy myw,canaf i’m Duw tra fythwyf:
34. Mi a lawenhaf yn fy Ion,bydd ffyddlon hyn a wnelwyf.
35. Y trawsion oll o’r tir ânt hwy,ni bydd mwy annuwiolion.Fy enaid mola Duw yn rhodd:mae hyn wrth fodd fy nghalon.