1. Yr Arglwydd Dduw yw ein brenin,er maint yw trin y bobloedd:Mae’n eistedd rhwng dau gerubyn,fe gryn’ pob daiar leoedd.
2. Canys brenin mawr ydyw’r Ionyn Seion o’i dderchafel:Ac uwchlaw pobloedd yr holl fyd,y sydd o rydyd uchel.
3. Cydfoliannant o’r nef i’r llawr,dy enw mawr rhagorol:Ofnadwy, sanctaidd, yw i’w drin.
4. Tithau (o frenin nerthol)A geri farn, darperi iawn:yn gyfiawn heb draws-osgo:A barnedigaeth bur ddidost,a wnaethost di yn Jago’.
5. Derchefwch yr Arglwydd ein Duw,sef sanctaidd yw i’w fawredd:Ymgrymmwch o flaen ei stol draed,felly parhaed ei fowledd.
6. Moses, ac Aaron sanctaidd blaid,ymhlith offeiriaid gyrrodd:Samuel galwai ei enw ef,yntau o’r nef attebodd.
7. Mewn colofn o niwl y bu wiw,gan Dduw lefaru wrthynt,Tra fuant hwy yn cadw ei fodd,a’r ddeddf a roddodd iddynt.
8. Gwrandewaist arnynt, dodaist ged,a’i harbed, gan ymattal:Duw ein Nâf, dy nawdd parod fu,a hwythau’n haeddu dial.
9. Derchefwch ein Duw Ior am hyn,yn Seion fryn cyssegraidd,Ymgrymmwch iddo yn eich byw,sef unig Dduw sydd sanctaidd.