1. Gwrandawed di yr Arglwydd Nerpan ddel cyfyngder arnad,Enw Duw Jacob, ein Duw ni,a’th gadwo di yn wastad.
2. O’i gysegr rhoed yt help a nerth,a braich o brydferth Seion:
3. Cofied dy offrwm poeth a’th rodd,bo’rhai’n wrth fodd ei galon.
4. Rhoed ytty wrth dy fodd dy hun,Dy ddymun a’th adduned:Dy fwriad iach a’th arfaeth tau,a’th weddiau gwrandawed.
5. Yn enw ein Duw gorfoleddwnyn hyf, a chodwn faner:A’th ddeisyfiadau gwnaed yn rhwydd,yr Arglwydd o’r uchelder.
6. Yr Arglwydd gweryd (felly gwn)o’i gysegr drwn ei ’neiniog:Gwrendy ei arch, gyrr iddo rym,yn gyflym ac yn gefnog.
7. Rhai ar gerbydau rhont eu pwys,rhai ar feirch ddwys ymddiried:Minnau ar enw’r Arglwydd Ddyw,mai hwnnw yw’n ymwared.
8. Hwy a ’mroesant a syrthiasant,yn un nerth eisoes yno:Codasom a safasom ni,O Dduw, a thi i’n lwyddo.
9. Cadw ni Arglwydd a’th law gref,boed brenin y nef drosom:Gwrandawed hwnnw arnom ni:A’n gweddi pan y llefom.