1. O dowch a chanwn i’r Arglwydd,efe yw llwydd ein bywyd:Ac ymlawenhawn yn ei nerth,ef yw ein prydferth iechyd.
2. O down yn un-fryd gar ei fron,â chalon bur ddiolchgar:Bryssiwn at Dduw dan lawenhau,a chanwn psalmau’n llafar.
3. Herwydd yr Arglwydd nef a llawr,y sy Dduw mawr yn ddiau:Tywysog mawr yw ef mewn trin,a brenin yr holl dduwiau.
4. Efe biau holl ddaiar gron,a’r dyfnder eigion danaw:Uchelder hefyd, eithafoedd,mynyddoedd sydd yn eiddaw.
5. Ef biau’r moroedd uwch pob traeth,ac ef a’i gwnaeth i ruo:Ei ddwylaw ffurfiasant yn wiry sych-dir ac sydd yntho.
6. O dowch, addolwn, cyd-ymgrymmwn,ac ymostyngwn iddaw:Ef yw ein Arglwydd un-ben rhi’,ef a’n gwnaeth ni â’i ddwylaw.
7. Cans ef i ni y sydd Dduw da,a phobl ei borfa ydym:A'i ddefaid ym, os chwi a glywei air ef heddyw’n gyflym.
8. Meddyliwch fod eich bai ar lled,na fyddwch galed galon:Fel yn nydd prawf, mewn anial dir,lle y cofir bod ymryson.
9. Y lle temtiodd eich tadau fi,a’m profi i’m adnabod:Faint ydoedd y gweithredoedd mau,yn ddiau cawsant wybod.
10. Dros ddeugain mlynedd â’r llin hondrwy fawr ymryson, dwedais,Pobloedd ynt cyfeiliornus iawn,a’i calon yn llawn malais.Cans nid awaenent y ffyrdd mau,onid amlhau eu tuchan:
11. Wrthynt i’m llid y tyngais hyn,na ddelyn i’m gorphwysfan.