1. Wele, holl weision Arglwydd nef,bendithiwch ef, lle’r ydychYn sefyll yn nhy Dduw y nos,a’i gyntedd diddos trefn-wych.
2. Derchefwch chwi eich dwylo glân,yn ei gyssegr-lân annedd:A bendithiwch â chalon rwydd,yr Arglwydd yn gyfannedd.
3. Yr Arglwydd a’i ddeheulaw gref,hwn a wnaeth nef a daiar:A roddo ei fendith a’i rasi Seion ddinas hawddgar.