1. Disgwyliaf o’r mynyddoedd draw,lle y daw i’m help wyllysgar.
2. Yr Arglwydd rhydd i’m gymmorth gref,hwn a wnaeth nef a daiar.
3. Dy droed i lithro ef nis gâd,a’th geidwad fydd heb huno:
4. Wele, ceidwad Israel lân,heb hun na heppian arno.
5. Ar dy law ddeau mae dy Dduw,yr Arglwydd yw dy geidwad,
6. Dy lygru ni chaiff haul y dydd,ar nos nid rhydd i’r lleuad.
7. Yr Ion a’th geidw rhag pob drwg,a rhag pob cilwg anfad:
8. Cai fynd a dyfod beth yn rhwydd,yr Arglwydd fydd dy geidwad.