1. O Dduw, prysura i'm gwaredu; brysia, Arglwydd, i'm cymorth.
2. Cywilyddier a gwarthrudder y rhai a geisiant fy enaid: troer yn eu hôl a gwaradwydder y rhai a ewyllysiant ddrwg i mi.
3. Datroer yn lle gwobr am eu cywilydd, y rhai a ddywedant, Ha, ha.
4. Llawenyched, a gorfoledded ynot ti y rhai oll a'th geisiant; a dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth yn wastad, Mawryger Duw.
5. Minnau ydwyf dlawd ac anghenus; O Dduw, brysia ataf: fy nghymorth a'm gwaredydd ydwyt ti, O Arglwydd; na hir drig.