1. Trugarha wrthyf, O Dduw, yn ôl dy drugarowgrwydd: yn ôl lliaws dy dosturiaethau, dilea fy anwireddau.
2. Golch fi yn llwyr ddwys oddi wrth fy anwiredd, a glanha fi oddi wrth fy mhechod.
3. Canys yr wyf yn cydnabod fy nghamweddau: a'm pechod sydd yn wastad ger fy mron.
4. Yn dy erbyn di, dydi dy hunan, y pechais, ac y gwneuthum y drwg hwn yn dy olwg: fel y'th gyfiawnhaer pan leferych, ac y byddit bur pan farnech.
5. Wele, mewn anwiredd y'm lluniwyd; ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf.
6. Wele, ceraist wirionedd oddi mewn: a pheri i mi wybod doethineb yn y dirgel.
7. Glanha fi ag isop, a mi a lanheir: golch fi, a byddaf wynnach na'r eira.
8. Pâr i mi glywed gorfoledd a llawenydd; fel y llawenycho yr esgyrn a ddrylliaist.
9. Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau, a dilea fy holl anwireddau.
10. Crea galon lân ynof, O Dduw; ac adnewydda ysbryd uniawn o'm mewn.
11. Na fwrw fi ymaith oddi ger dy fron; ac na chymer dy ysbryd sanctaidd oddi wrthyf.
12. Dyro drachefn i mi orfoledd dy iachawdwriaeth; ac â'th hael ysbryd cynnal fi.
13. Yna y dysgaf dy ffyrdd i rai anwir; a phechaduriaid a droir atat.
14. Gwared fi oddi wrth waed, O Dduw, Duw fy iachawdwriaeth: a'm tafod a gân yn llafar am dy gyfiawnder.
15. Arglwydd, agor fy ngwefusau, a'm genau a fynega dy foliant.
16. Canys ni chwenychi aberth; pe amgen, mi a'i rhoddwn: poethoffrwm ni fynni.
17. Aberthau Duw ydynt ysbryd drylliedig: calon ddrylliog gystuddiedig, O Dduw, ni ddirmygi.
18. Gwna ddaioni yn dy ewyllysgarwch i Seion: adeilada furiau Jerwsalem.
19. Yna y byddi fodlon i ebyrth cyfiawnder, i boethoffrwm ac aberth llosg: yna yr offrymant fustych ar dy allor.