1. Ti, Arglwydd, fuost yn breswylfa i ni ym mhob cenhedlaeth.
2. Cyn gwneuthur y mynyddoedd, a llunio ohonot y ddaear, a'r byd; ti hefyd wyt Dduw, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.
3. Troi ddyn i ddinistr; a dywedi, Dychwelwch, feibion dynion.
4. Canys mil o flynyddoedd ydynt yn dy olwg di fel doe, wedi yr êl heibio, ac fel gwyliadwriaeth nos.
5. Dygi hwynt ymaith megis â llifeiriant; y maent fel hun: y bore y maent fel llysieuyn a newidir.
6. Y bore y blodeua, ac y tyf; prynhawn y torrir ef ymaith, ac y gwywa.
7. Canys yn dy ddig y difethwyd ni, ac yn dy lidiowgrwydd y'n brawychwyd.
8. Gosodaist ein hanwiredd ger dy fron, ein dirgel bechodau yng ngoleuni dy wyneb.
9. Canys ein holl ddyddiau ni a ddarfuant gan dy ddigofaint di: treuliasom ein blynyddoedd fel chwedl.
10. Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae deng mlynedd a thrigain: ac os o gryfder y cyrhaeddir pedwar ugain mlynedd, eto eu nerth sydd boen a blinder; canys ebrwydd y derfydd, a ni a ehedwn ymaith.
11. Pwy a edwyn nerth dy soriant? canys fel y mae dy ofn, y mae dy ddicter.
12. Dysg i ni felly gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calon i ddoethineb.
13. Dychwel, Arglwydd, pa hyd? ac edifarha o ran dy weision.
14. Diwalla ni yn fore â'th drugaredd; fel y gorfoleddom ac y llawenychom dros ein holl ddyddiau.
15. Llawenha ni yn ôl y dyddiau y cystuddiaist ni, a'r blynyddoedd y gwelsom ddrygfyd.
16. Gweler dy waith tuag at dy weision, a'th ogoniant tuag at eu plant hwy.
17. A bydded prydferthwch yr Arglwydd ein Duw arnom ni: a threfna weithred ein dwylo ynom ni; ie, trefna waith ein dwylo.