1. Moeswch i'r Arglwydd, chwi feibion cedyrn, moeswch i'r Arglwydd ogoniant a nerth.
2. Moeswch i'r Arglwydd ogoniant ei enw: addolwch yr Arglwydd ym mhrydferthwch ei sancteiddrwydd.
3. Llef yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd: Duw y gogoniant a darana; yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd mawrion.
4. Llef yr Arglwydd sydd mewn grym: llef yr Arglwydd sydd mewn prydferthwch.
5. Llef yr Arglwydd sydd yn dryllio y cedrwydd: ie, dryllia yr Arglwydd gedrwydd Libanus.
6. Efe a wna iddynt lamu fel llo; Libanus a Sirion fel llwdn unicorn.
7. Llef yr Arglwydd a wasgara y fflamau tân.
8. Llef yr Arglwydd a wna i'r anialwch grynu: yr Arglwydd a wna i anialwch Cades grynu.
9. Llef yr Arglwydd a wna i'r ewigod lydnu, ac a ddinoetha y coedydd: ac yn ei deml pawb a draetha ei ogoniant ef.
10. Yr Arglwydd sydd yn eistedd ar y llifeiriant; ie, yr Arglwydd a eistedd yn Frenin yn dragywydd.
11. Yr Arglwydd a ddyry nerth i'w bobl: yr Arglwydd a fendithia ei bobl â thangnefedd.