1. Molwch yr Arglwydd. Cenwch i'r Arglwydd ganiad newydd, a'i foliant ef yng nghynulleidfa y saint.
2. Llawenhaed Israel yn yr hwn a'i gwnaeth: gorfoledded meibion Seion yn eu Brenin.
3. Molant ei enw ef ar y dawns: canant iddo ar dympan a thelyn.
4. Oherwydd hoffodd yr Arglwydd ei bobl: efe a brydfertha y rhai llednais â iachawdwriaeth.
5. Gorfoledded y saint mewn gogoniant: a chanant ar eu gwelyau.
6. Bydded ardderchog foliant Duw yn eu genau, a chleddyf daufiniog yn eu dwylo;
7. I wneuthur dial ar y cenhedloedd, a chosb ar y bobloedd;
8. I rwymo eu brenhinoedd â chadwynau, a'u pendefigion â gefynnau heyrn;
9. I wneuthur arnynt y farn ysgrifenedig: yr ardderchowgrwydd hwn sydd i'w holl saint ef. Molwch yr Arglwydd.