1. Molwch yr Arglwydd. Gwyn ei fyd y gŵr a ofna yr Arglwydd, ac sydd yn hoffi ei orchmynion ef yn ddirfawr.
2. Ei had fydd gadarn ar y ddaear: cenhedlaeth y rhai uniawn a fendithir.
3. Golud a chyfoeth fydd yn ei dŷ ef: a'i gyfiawnder sydd yn parhau byth.
4. Cyfyd goleuni i'r rhai uniawn yn y tywyllwch: trugarog, a thosturiol, a chyfiawn, yw efe.
5. Gŵr da sydd gymwynasgar, ac yn rhoddi benthyg: wrth farn y llywodraetha efe ei achosion.
6. Yn ddiau nid ysgogir ef byth: y cyfiawn fydd byth mewn coffadwriaeth.
7. Nid ofna efe rhag chwedl drwg: ei galon sydd ddi‐sigl, yn ymddiried yn yr Arglwydd.
8. Ategwyd ei galon: nid ofna efe, hyd oni welo ei ewyllys ar ei elynion.
9. Gwasgarodd, rhoddodd i'r tlodion; a'i gyfiawnder sydd yn parhau byth; ei gorn a ddyrchefir mewn gogoniant.
10. Yr annuwiol a wêl hyn, ac a ddigia; efe a ysgyrnyga ei ddannedd, ac a dawdd ymaith: derfydd am ddymuniad y rhai annuwiol.