1. Clodforwch yr Arglwydd; gelwch ar ei enw: mynegwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd.
2. Cenwch iddo, canmolwch ef: ymddiddenwch am ei holl ryfeddodau ef.
3. Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd: llawenyched calon y rhai a geisiant yr Arglwydd.
4. Ceisiwch yr Arglwydd a'i nerth: ceisiwch ei wyneb ef bob amser.
5. Cofiwch ei ryfeddodau y rhai a wnaeth efe; ei wyrthiau, a barnedigaethau ei enau;
6. Chwi had Abraham ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion.
7. Efe yw yr Arglwydd ein Duw ni: ei farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear.
8. Cofiodd ei gyfamod byth, y gair a orchmynnodd efe i fil o genedlaethau:
9. Yr hyn a amododd efe ag Abraham, a'i lw i Isaac;
10. A'r hyn a osododd efe yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel;
11. Gan ddywedyd, I ti y rhoddaf dir Canaan, rhandir eich etifeddiaeth.
12. Pan oeddynt ychydig o rifedi, ie, ychydig, a dieithriaid ynddi:
13. Pan rodient o genhedlaeth i genhedlaeth, o'r naill deyrnas at bobl arall:
14. Ni adawodd i neb eu gorthrymu; ie, ceryddodd frenhinoedd o'u plegid;
15. Gan ddywedyd, Na chyffyrddwch â'm rhai eneiniog, ac na ddrygwch fy mhroffwydi.
16. Galwodd hefyd am newyn ar y tir; a dinistriodd holl gynhaliaeth bara.
17. Anfonodd ŵr o'u blaen hwynt, Joseff, yr hwn a werthwyd yn was.
18. Cystuddiasant ei draed ef mewn gefyn: ei enaid a aeth mewn heyrn:
19. Hyd yr amser y daeth ei air ef: gair yr Arglwydd a'i profodd ef.
20. Y brenin a anfonodd, ac a'i gollyngodd ef; llywodraethwr y bobl, ac a'i rhyddhaodd ef.
21. Gosododd ef yn arglwydd ar ei dŷ, ac yn llywydd ar ei holl gyfoeth:
22. I rwymo ei dywysogion ef wrth ei ewyllys; ac i ddysgu doethineb i'w henuriaid ef.
23. Aeth Israel hefyd i'r Aifft; a Jacob a ymdeithiodd yn nhir Ham.
24. Ac efe a gynyddodd ei bobl yn ddirfawr; ac a'u gwnaeth yn gryfach na'u gwrthwynebwyr.
25. Trodd eu calon hwynt i gasáu ei bobl ef, i wneuthur yn ddichellgar â'i weision.
26. Efe a anfonodd Moses ei was; ac Aaron, yr hwn a ddewisasai.
27. Hwy a ddangosasant ei arwyddion ef yn eu plith hwynt, a rhyfeddodau yn nhir Ham.
28. Efe a anfonodd dywyllwch, ac a dywyllodd: ac nid anufuddhasant hwy ei air ef.
29. Efe a drodd eu dyfroedd yn waed, ac a laddodd eu pysgod.
30. Eu tir a heigiodd lyffaint yn ystafelloedd eu brenhinoedd.
31. Efe a ddywedodd, a daeth cymysgbla, a llau yn eu holl fro hwynt.
32. Efe a wnaeth eu glaw hwynt yn genllysg, ac yn fflamau tân yn eu tir.
33. Trawodd hefyd eu gwinwydd, a'u ffigyswydd; ac a ddrylliodd goed eu gwlad hwynt.
34. Efe a ddywedodd, a daeth y locustiaid, a'r lindys, yn aneirif;
35. Y rhai a fwytasant yr holl laswellt yn eu tir hwynt, ac a ddifasant ffrwyth eu daear hwynt.
36. Trawodd hefyd bob cyntaf‐anedig yn eu tir hwynt, blaenffrwyth eu holl nerth hwynt.
37. Ac a'u dug hwynt allan ag arian ac aur; ac heb un llesg yn eu llwythau.
38. Llawenychodd yr Aifft pan aethant allan: canys syrthiasai eu harswyd arnynt hwy.
39. Efe a daenodd gwmwl yn do, a thân i oleuo liw nos.
40. Gofynasant, ac efe a ddug soflieir; ac a'u diwallodd â bara nefol.
41. Efe a holltodd y graig, a'r dyfroedd a ddylifodd; cerddasant ar hyd lleoedd sychion yn afonydd.
42. Canys efe a gofiodd ei air sanctaidd, ac Abraham ei was.
43. Ac a ddug ei bobl allan mewn llawenydd; ei etholedigion mewn gorfoledd.
44. Ac a roddes iddynt diroedd y cenhedloedd: a meddianasant lafur y bobloedd.
45. Fel y cadwent ei ddeddfau ef, ac y cynhalient ei gyfreithiau. Molwch yr Arglwydd.