1. Da yw moliannu yr Arglwydd, a chanu mawl i'th enw di, y Goruchaf:
2. A mynegi y bore am dy drugaredd, a'th wirionedd y nosweithiau;
3. Ar ddectant, ac ar y nabl; ac ar y delyn yn fyfyriol.
4. Canys llawenychaist fi, O Arglwydd, â'th weithred: yng ngwaith dy ddwylo y gorfoleddaf.
5. Mor fawredig, O Arglwydd, yw dy weithredoedd! dwfn iawn yw dy feddyliau.
6. Gŵr annoeth ni ŵyr, a'r ynfyd ni ddeall hyn.
7. Pan flodeuo y rhai annuwiol fel y llysieuyn, a blaguro holl weithredwyr anwiredd; hynny sydd i'w dinistrio byth bythoedd.
8. Tithau, Arglwydd, wyt ddyrchafedig yn dragywydd.
9. Canys wele, dy elynion, O Arglwydd, wele, dy elynion a ddifethir: gwasgerir holl weithredwyr anwiredd.
10. Ond fy nghorn i a ddyrchefi fel unicorn: ag olew ir y'm heneinir.
11. Fy llygad hefyd a wêl fy ngwynfyd ar fy ngwrthwynebwyr: fy nghlustiau a glywant fy ewyllys am y rhai drygionus a gyfodant i'm herbyn.
12. Y cyfiawn a flodeua fel palmwydden; ac a gynydda fel cedrwydden yn Libanus.
13. Y rhai a blannwyd yn nhŷ yr Arglwydd, a flodeuant yng nghynteddoedd ein Duw.
14. Ffrwythant eto yn eu henaint; tirfion ac iraidd fyddant:
15. I fynegi mai uniawn yw yr Arglwydd fy nghraig; ac nad oes anwiredd ynddo.