1. Na thaw, O Dduw fy moliant.
2. Canys genau yr annuwiol a genau y twyllodrus a ymagorasant arnaf: â thafod celwyddog y llefarasant i'm herbyn.
3. Cylchynasant fi hefyd â geiriau cas; ac ymladdasant â mi heb achos.
4. Am fy ngharedigrwydd y'm gwrthwynebant: minnau a arferaf weddi.
5. Talasant hefyd i mi ddrwg am dda, a chas am fy nghariad.
6. Gosod dithau un annuwiol arno ef; a safed Satan wrth ei ddeheulaw ef.
7. Pan farner ef, eled yn euog; a bydded ei weddi yn bechod.
8. Ychydig fyddo ei ddyddiau; a chymered arall ei swydd ef.
9. Bydded ei blant yn amddifaid, a'i wraig yn weddw.
10. Gan grwydro hefyd crwydred ei blant ef, a chardotant: ceisiant hefyd eu bara o'u hanghyfannedd leoedd.
11. Rhwyded y ceisiad yr hyn oll sydd ganddo; ac anrheithied dieithriaid ei lafur ef.
12. Na fydded neb a estynno drugaredd iddo; ac na fydded neb a drugarhao wrth ei amddifaid ef.
13. Torrer ymaith ei hiliogaeth ef: dileer eu henw yn yr oes nesaf.
14. Cofier anwiredd ei dadau o flaen yr Arglwydd; ac na ddileer pechod ei fam ef.
15. Byddant bob amser gerbron yr Arglwydd, fel y torro efe ymaith eu coffadwriaeth o'r tir:
16. Am na chofiodd wneuthur trugaredd, eithr erlid ohono y truan a'r tlawd, a'r cystuddiedig o galon, i'w ladd.
17. Hoffodd felltith, a hi a ddaeth iddo: ni fynnai fendith, a hi a bellhaodd oddi wrtho.
18. Ie, gwisgodd felltith fel dilledyn; a hi a ddaeth fel dwfr i'w fewn, ac fel olew i'w esgyrn.
19. Bydded iddo fel dilledyn yr hwn a wisgo efe, ac fel gwregys a'i gwregyso efe yn wastadol.
20. Hyn fyddo tâl fy ngwrthwynebwyr gan yr Arglwydd, a'r rhai a ddywedant ddrwg yn erbyn fy enaid.
21. Tithau, Arglwydd Dduw, gwna erof fi er mwyn dy enw: am fod yn dda dy drugaredd, gwared fi.
22. Canys truan a thlawd ydwyf fi, a'm calon a archollwyd o'm mewn.
23. Euthum fel cysgod pan gilio: fel locust y'm hysgydwir.
24. Fy ngliniau a aethant yn egwan gan ympryd; a'm cnawd a guriodd o eisiau braster.
25. Gwaradwydd hefyd oeddwn iddynt: pan welent fi, siglent eu pennau.
26. Cynorthwya fi, O Arglwydd fy Nuw; achub fi yn ôl dy drugaredd:
27. Fel y gwypont mai dy law di yw hyn; mai ti, Arglwydd, a'i gwnaethost.
28. Melltithiant hwy, ond bendithia di: cywilyddier hwynt, pan gyfodant; a llawenyched dy was.
29. Gwisger fy ngwrthwynebwyr â gwarth, ac ymwisgant â'u cywilydd, megis â chochl.
30. Clodforaf yr Arglwydd yn ddirfawr â'm genau; ie, moliannaf ef ymysg llawer.
31. Oherwydd efe a saif ar ddeheulaw y tlawd, i'w achub oddi wrth y rhai a farnant ei enaid.