1. Cenwch i'r Arglwydd ganiad newydd; cenwch i'r Arglwydd, yr holl ddaear.
2. Cenwch i'r Arglwydd, bendigwch ei enw; cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef.
3. Datgenwch ymysg y cenhedloedd ei ogoniant ef, ymhlith yr holl bobloedd ei ryfeddodau.
4. Canys mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn: ofnadwy yw efe goruwch yr holl dduwiau.
5. Canys holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod: ond yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd.
6. Gogoniant a harddwch sydd o'i flaen ef; nerth a hyfrydwch sydd yn ei gysegr.
7. Tylwythau y bobl, rhoddwch i'r Arglwydd, rhoddwch i'r Arglwydd ogoniant a nerth.
8. Rhoddwch i'r Arglwydd ogoniant ei enw: dygwch offrwm, a deuwch i'w gynteddoedd.
9. Addolwch yr Arglwydd mewn prydferthwch sancteiddrwydd: yr holl ddaear, ofnwch ger ei fron ef.
10. Dywedwch ymysg y cenhedloedd, Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; a'r byd a sicrhaodd efe, fel nad ysgogo: efe a farna y bobl yn uniawn.
11. Llawenhaed y nefoedd, a gorfoledded y ddaear; rhued y môr a'i gyflawnder.
12. Gorfoledded y maes, a'r hyn oll y sydd ynddo: yna holl brennau y coed a ganant.
13. O flaen yr Arglwydd; canys y mae yn dyfod, canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd trwy gyfiawnder, a'r bobloedd â'i wirionedd.