1. Arglwydd, na cherydda fi yn dy lid: ac na chosba fi yn dy ddicllonedd.
2. Canys y mae dy saethau ynglŷn ynof, a'th law yn drom arnaf.
3. Nid oes iechyd yn fy nghnawd, oherwydd dy ddicllonedd; ac nid oes heddwch i'm hesgyrn, oblegid fy mhechod.
4. Canys fy nghamweddau a aethant dros fy mhen: megis baich trwm y maent yn rhy drwm i mi.
5. Fy nghleisiau a bydrasant ac a lygrasant, gan fy ynfydrwydd.
6. Crymwyd a darostyngwyd fi yn ddirfawr: beunydd yr ydwyf yn myned yn alarus.
7. Canys fy lwynau a lanwyd o ffieiddglwyf; ac nid oes iechyd yn fy nghnawd.
8. Gwanhawyd, a drylliwyd fi yn dra mawr: rhuais gan aflonyddwch fy nghalon.
9. O'th flaen di, Arglwydd, y mae fy holl ddymuniad; ac ni chuddiwyd fy uchenaid oddi wrthyt.
10. Fy nghalon sydd yn llamu; fy nerth a'm gadawodd; a llewyrch fy llygaid nid yw chwaith gennyf.
11. Fy ngharedigion a'm cyfeillion a safent oddi ar gyfer fy mhla; a'm cyfneseifiaid a safent o hirbell.
12. Y rhai hefyd a geisient fy einioes, a osodasent faglau; a'r rhai a geisient fy niwed, a draethent anwireddau, ac a ddychmygent ddichellion ar hyd y dydd.
13. A minnau fel byddar ni chlywn; eithr oeddwn fel mudan heb agoryd ei enau.
14. Felly yr oeddwn fel gŵr ni chlywai, ac heb argyhoeddion yn ei enau.
15. Oherwydd i mi obeithio ynot, Arglwydd; ti, Arglwydd fy Nuw, a wrandewi.
16. Canys dywedais, Gwrando fi, rhag llawenychu ohonynt i'm herbyn: pan lithrai fy nhroed, ymfawrygent i'm herbyn.
17. Canys parod wyf i gloffi, a'm dolur sydd ger fy mron yn wastad.
18. Diau y mynegaf fy anwiredd, ac y pryderaf oherwydd fy mhechod.
19. Ac y mae fy ngelynion yn fyw, ac yn gedyrn: amlhawyd hefyd y rhai a'm casânt ar gam.
20. A'r rhai a dalant ddrwg dros dda, a'm gwrthwynebant; am fy mod yn dilyn daioni.
21. Na ad fi, O Arglwydd: fy Nuw, nac ymbellha oddi wrthyf.
22. Brysia i'm cymorth, O Arglwydd fy iachawdwriaeth.