1. Clodforwn dydi, O Dduw, clodforwn; canys agos yw dy enw; dy ryfeddodau a fynegant hynny.
2. Pan dderbyniwyf y gynulleidfa, mi a farnaf yn uniawn.
3. Ymddatododd y ddaear, a'i holl drigolion: myfi sydd yn cynnal ei cholofnau. Sela.
4. Dywedais wrth y rhai ynfyd, Nac ynfydwch; ac wrth y rhai annuwiol, Na ddyrchefwch eich corn:
5. Na ddyrchefwch eich corn yn uchel: na ddywedwch yn warsyth.
6. Canys nid o'r dwyrain, nac o'r gorllewin, nac o'r deau, y daw goruchafiaeth.
7. Ond Duw sydd yn barnu; efe a ostwng y naill, ac a gyfyd y llall.
8. Oblegid y mae ffiol yn llaw yr Arglwydd, a'r gwin sydd goch; yn llawn cymysg, ac efe a dywalltodd ohono: eto holl annuwiolion y tir a wasgant, ac a yfant ei waelodion.
9. Minnau a fynegaf yn dragywydd, ac a ganaf i Dduw Jacob.
10. Torraf hefyd holl gyrn y rhai annuwiol; a chyrn y rhai cyfiawn a ddyrchefir.