1. Gwrando fi pan alwyf, O Dduw fy nghyfiawnder: mewn cyfyngder yr ehengaist arnaf; trugarha wrthyf, ac erglyw fy ngweddi.
2. O feibion dynion, pa hyd y trowch fy ngogoniant yn warth? yr hoffwch wegi, ac yr argeisiwch gelwydd? Sela.
3. Ond gwybyddwch i'r Arglwydd neilltuo y duwiol iddo ei hun: yr Arglwydd a wrendy pan alwyf arno.
4. Ofnwch, ac na phechwch: ymddiddenwch â'ch calon ar eich gwely, a thewch. Sela.
5. Aberthwch ebyrth cyfiawnder; a gobeithiwch yn yr Arglwydd.
6. Llawer sydd yn dywedyd, Pwy a ddengys i ni ddaioni? Arglwydd, dyrcha arnom lewyrch dy wyneb.
7. Rhoddaist lawenydd yn fy nghalon, mwy na'r amser yr amlhaodd eu hŷd a'u gwin hwynt.
8. Mewn heddwch hefyd y gorweddaf, ac yr hunaf: canys ti, Arglwydd, yn unig a wnei i mi drigo mewn diogelwch.