1. Eiddo yr Arglwydd y ddaear, a'i chyflawnder; y byd, ac a breswylia ynddo.
2. Canys efe a'i seiliodd ar y moroedd, ac a'i sicrhaodd ar yr afonydd.
3. Pwy a esgyn i fynydd yr Arglwydd? a phwy a saif yn ei le sanctaidd ef?
4. Y glân ei ddwylo, a'r pur ei galon; yr hwn ni ddyrchafodd ei feddwl at wagedd, ac ni thyngodd i dwyllo.
5. Efe a dderbyn fendith gan yr Arglwydd, a chyfiawnder gan Dduw ei iachawdwriaeth.
6. Dyma genhedlaeth y rhai a'i ceisiant ef, y rhai a geisiant dy wyneb di, O Jacob. Sela.
7. O byrth, dyrchefwch eich pennau; ac ymddyrchefwch, ddrysau tragwyddol; a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn.
8. Pwy yw y Brenin gogoniant hwn? yr Arglwydd nerthol a chadarn, yr Arglwydd cadarn mewn rhyfel.
9. O byrth, dyrchefwch eich pennau; ac ymddyrchefwch, ddrysau tragwyddol; a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn.
10. Pwy yw y Brenin gogoniant hwn? Arglwydd y lluoedd, efe yw Brenin y gogoniant. Sela.