1. Duw sydd yn sefyll yng nghynulleidfa y galluog: ymhlith y duwiau y barn efe.
2. Pa hyd y bernwch ar gam? ac y derbyniwch wyneb y rhai annuwiol? Sela.
3. Bernwch y tlawd a'r amddifad: cyfiawnhewch y cystuddiedig a'r rheidus.
4. Gwaredwch y tlawd a'r anghenus: achubwch hwynt o law y rhai annuwiol.
5. Ni wyddant, ac ni ddeallant; mewn tywyllwch y rhodiant: holl sylfaenau y ddaear a symudwyd o'u lle.
6. Myfi a ddywedais, Duwiau ydych chwi; a meibion y Goruchaf ydych chwi oll.
7. Eithr byddwch feirw fel dynion, ac fel un o'r tywysogion y syrthiwch.
8. Cyfod, O Dduw, barna y ddaear: canys ti a etifeddi yr holl genhedloedd.