1. Ar yr Arglwydd y gwaeddais yn fy nghyfyngder, ac efe a'm gwrandawodd i.
2. Arglwydd, gwared fy enaid oddi wrth wefusau celwyddog, ac oddi wrth dafod twyllodrus.
3. Beth a roddir i ti? neu pa beth a wneir i ti, dydi dafod twyllodrus?
4. Llymion saethau cawr, ynghyd â marwor meryw.
5. Gwae fi, fy mod yn preswylio ym Mesech, yn cyfanheddu ym mhebyll Cedar.
6. Hir y trigodd fy enaid gyda'r hwn oedd yn casáu tangnefedd.
7. Heddychol ydwyf fi: ond pan lefarwyf, y maent yn barod i ryfel.