1. O Arglwydd, cofia Dafydd, a'i holl flinder;
2. Y modd y tyngodd efe wrth yr Arglwydd, ac yr addunodd i rymus Dduw Jacob:
3. Ni ddeuaf i fewn pabell fy nhÅ·, ni ddringaf ar erchwyn fy ngwely;
4. Ni roddaf gwsg i'm llygaid, na hun i'm hamrantau,
5. Hyd oni chaffwyf le i'r Arglwydd, preswylfod i rymus Dduw Jacob.
6. Wele, clywsom amdani yn Effrata: cawsom hi ym meysydd y coed.
7. Awn i'w bebyll ef; ymgrymwn o flaen ei fainc draed ef.
8. Cyfod, Arglwydd, i'th orffwysfa; ti ac arch dy gadernid.
9. Gwisged dy offeiriaid gyfiawnder; a gorfoledded dy saint.
10. Er mwyn Dafydd dy was, na thro ymaith wyneb dy Eneiniog.
11. Tyngodd yr Arglwydd mewn gwirionedd i Dafydd; ni thry efe oddi wrth hynny; o ffrwyth dy gorff y gosodaf ar dy orseddfainc.
12. Os ceidw dy feibion fy nghyfamod a'm tystiolaeth, y rhai a ddysgwyf iddynt; eu meibion hwythau yn dragywydd a eisteddant ar dy orseddfainc.
13. Canys dewisodd yr Arglwydd Seion: ac a'i chwenychodd yn drigfa iddo ei hun.
14. Dyma fy ngorffwysfa yn dragywydd: yma y trigaf; canys chwenychais hi.
15. Gan fendithio y bendithiaf ei lluniaeth: diwallaf ei thlodion â bara.
16. Ei hoffeiriaid hefyd a wisgaf ag iachawdwriaeth: a'i saint dan ganu a ganant.
17. Yna y paraf i gorn Dafydd flaguro: darperais lamp i'm Heneiniog.
18. Ei elynion ef a wisgaf â chywilydd: arno yntau y blodeua ei goron.