1. Mawrygaf di, O Arglwydd: canys dyrchefaist fi, ac ni lawenheaist fy ngelynion o'm plegid.
2. Arglwydd fy Nuw, llefais arnat, a thithau a'm hiacheaist.
3. Arglwydd, dyrchefaist fy enaid o'r bedd: cedwaist fi yn fyw, rhag disgyn ohonof i'r pwll.
4. Cenwch i'r Arglwydd, ei saint ef; a chlodforwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef.
5. Canys ennyd fechan y bydd yn ei lid; yn ei fodlonrwydd y mae bywyd: dros brynhawn yr erys wylofain, ac erbyn y bore y bydd gorfoledd.
6. Ac mi a ddywedais yn fy llwyddiant, Ni'm syflir yn dragywydd.
7. O'th ddaioni, Arglwydd, y gosodaist gryfder yn fy mynydd: cuddiaist dy wyneb, a bûm helbulus.
8. Arnat ti, Arglwydd, y llefais, ac â'r Arglwydd yr ymbiliais.
9. Pa fudd sydd yn fy ngwaed, pan ddisgynnwyf i'r ffos? a glodfora y llwch di? a fynega efe dy wirionedd?
10. Clyw, Arglwydd, a thrugarha wrthyf: Arglwydd, bydd gynorthwywr i mi.
11. Troaist fy ngalar yn llawenydd i mi: diosgaist fy sachwisg, a gwregysaist fi â llawenydd;
12. Fel y cano fy ngogoniant i ti, ac na thawo. O Arglwydd fy Nuw, yn dragwyddol y'th foliannaf.