1. Wrth Dduw yn unig y disgwyl fy enaid: ohono ef y daw fy iachawdwriaeth.
2. Efe yn unig yw fy nghraig, a'm hiachawdwriaeth, a'm hamddiffyn; ni'm mawr ysgogir.
3. Pa hyd y bwriedwch aflwydd yn erbyn gŵr? lleddir chwi oll; a byddwch fel magwyr ogwyddedig, neu bared ar ei ogwydd.
4. Ymgyngorasant yn unig i'w fwrw ef i lawr o'i fawredd; hoffasant gelwydd: â'u geneuau y bendithiant, ond o'u mewn y melltithiant. Sela.
5. O fy enaid, disgwyl wrth Dduw yn unig: canys ynddo ef y mae fy ngobaith.
6. Efe yn unig yw fy nghraig, a'm hiachawdwriaeth: efe yw fy amddiffynfa: ni'm hysgogir.
7. Yn Nuw y mae fy iachawdwriaeth a'm gogoniant: craig fy nghadernid, a'm noddfa, sydd yn Nuw.
8. Gobeithiwch ynddo ef bob amser; O bobl, tywelltwch eich calon ger ei fron ef: Duw sydd noddfa i ni. Sela.
9. Gwagedd yn ddiau yw meibion dynion, geudeb yw meibion gwŷr: i'w gosod yn y clorian, ysgafnach ydynt hwy i gyd na gwegi.
10. Nac ymddiriedwch mewn trawster, ac mewn trais na fyddwch ofer: os cynydda golud, na roddwch eich calon arno.
11. Unwaith y dywedodd Duw, clywais hynny ddwywaith; mai eiddo Duw yw cadernid.
12. Trugaredd hefyd sydd eiddot ti, O Arglwydd: canys ti a deli i bob dyn yn ôl ei weithred.