1. Clyw, O Dduw, fy llefain; gwrando ar fy ngweddi.
2. O eithaf y ddaear y llefaf atat, pan lesmeirio fy nghalon: arwain fi i graig a fyddo uwch na mi.
3. Canys buost yn noddfa i mi, ac yn dŵr cadarn rhag y gelyn.
4. Preswyliaf yn dy babell byth: a'm hymddiried fydd dan orchudd dy adenydd. Sela.
5. Canys ti, Dduw, a glywaist fy addunedau: rhoddaist etifeddiaeth i'r rhai a ofnant dy enw.
6. Ti a estynni oes y Brenin; ei flynyddoedd fyddant fel cenedlaethau lawer.
7. Efe a erys byth gerbron Duw; darpar drugaredd a gwirionedd, fel y cadwont ef.
8. Felly y canmolaf dy enw yn dragywydd, fel y talwyf fy addunedau beunydd.