1. Fy enaid, bendithia yr Arglwydd. O Arglwydd fy Nuw, tra mawr ydwyt; gwisgaist ogoniant a harddwch.
2. Yr hwn wyt yn gwisgo goleuni fel dilledyn: ac yn taenu y nefoedd fel llen.
3. Yr hwn sydd yn gosod tulathau ei ystafelloedd yn y dyfroedd; yn gwneuthur y cymylau yn gerbyd iddo; ac yn rhodio ar adenydd y gwynt.
4. Yr hwn sydd yn gwneuthur ei genhadon yn ysbrydion; a'i weinidogion yn dân fflamllyd.
5. Yr hwn a seiliodd y ddaear ar ei sylfeini, fel na symudo byth yn dragywydd.
6. Toaist hi â'r gorddyfnder, megis â gwisg: y dyfroedd a safent goruwch y mynyddoedd.
7. Gan dy gerydd di y ffoesant: rhag sŵn dy daran y prysurasant ymaith.
8. Gan y mynyddoedd yr ymgodant: ar hyd y dyffrynnoedd y disgynnant, i'r lle a seiliaist iddynt.
9. Gosodaist derfyn, fel nad elont drosodd; fel na ddychwelont i orchuddio y ddaear.
10. Yr hwn a yrr y ffynhonnau i'r dyffrynnoedd, y rhai a gerddant rhwng y bryniau.
11. Diodant holl fwystfilod y maes: yr asynnod gwylltion a dorrant eu syched.
12. Adar y nefoedd a drigant gerllaw iddynt, y rhai a leisiant oddi rhwng y cangau.
13. Y mae efe yn dyfrhau y bryniau o'i ystafelloedd: y ddaear a ddigonir o ffrwyth dy weithredoedd.
14. Y mae yn peri i'r gwellt dyfu i'r anifeiliaid, a llysiau i wasanaeth dyn: fel y dyco fara allan o'r ddaear;
15. A gwin, yr hwn a lawenycha galon dyn; ac olew, i beri i'w wyneb ddisgleirio: a bara, yr hwn a gynnal galon dyn.
16. Prennau yr Arglwydd sydd lawn sugn: cedrwydd Libanus, y rhai a blannodd efe;
17. Lle y nytha yr adar: y ffynidwydd yw tŷ y ciconia.
18. Y mynyddoedd uchel sydd noddfa i'r geifr; a'r creigiau i'r cwningod.
19. Efe a wnaeth y lleuad i amserau nodedig: yr haul a edwyn ei fachludiad.
20. Gwnei dywyllwch, a nos fydd: ynddi yr ymlusga pob bwystfil coed.
21. Y cenawon llewod a ruant am ysglyfaeth, ac a geisiant eu bwyd gan Dduw.
22. Pan godo haul, ymgasglant, a gorweddant yn eu llochesau.
23. Dyn a â allan i'w waith, ac i'w orchwyl hyd yr hwyr.
24. Mor lluosog yw dy weithredoedd, O Arglwydd! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb: llawn yw y ddaear o'th gyfoeth.
25. Felly y mae y môr mawr, llydan: yno y mae ymlusgiaid heb rifedi, bwystfilod bychain a mawrion.
26. Yno yr â y llongau: yno y mae y lefiathan, yr hwn a luniaist i chwarae ynddo.
27. Y rhai hyn oll a ddisgwyliant wrthyt; am roddi iddynt eu bwyd yn ei bryd.
28. A roddech iddynt, a gasglant: agori dy law, a diwellir hwynt â daioni.
29. Ti a guddi dy wyneb, hwythau a drallodir: dygi ymaith eu hanadl, a threngant, a dychwelant i'w llwch.
30. Pan ollyngych dy ysbryd, y crëir hwynt; ac yr adnewyddi wyneb y ddaear.
31. Gogoniant yr Arglwydd fydd yn dragywydd: yr Arglwydd a lawenycha yn ei weithredoedd.
32. Efe a edrych ar y ddaear, a hi a gryna: efe a gyffwrdd â'r mynyddoedd, a hwy a fygant.
33. Canaf i'r Arglwydd tra fyddwyf fyw: canaf i'm Duw tra fyddwyf.
34. Bydd melys fy myfyrdod amdano: mi a lawenychaf yn yr Arglwydd.
35. Darfydded y pechaduriaid o'r tir, na fydded yr annuwiolion mwy. Fy enaid, bendithia di yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.