1. Pan aeth Israel o'r Aifft, tŷ Jacob oddi wrth bobl anghyfiaith;
2. Jwda oedd ei sancteiddrwydd, ac Israel ei arglwyddiaeth.
3. Y môr a welodd hyn, ac a giliodd; yr Iorddonen a drodd yn ôl.
4. Y mynyddoedd a neidiasant fel hyrddod, a'r bryniau fel ŵyn defaid.
5. Beth ddarfu i ti, O fôr, pan giliaist? tithau Iorddonen, paham y troaist yn ôl?
6. Paham, fynyddoedd, y neidiech fel hyrddod? a'r bryniau fel ŵyn defaid?
7. Ofna, di ddaear, rhag yr Arglwydd, rhag Duw Jacob:
8. Yr hwn sydd yn troi y graig yn llyn dwfr, a'r gallestr yn ffynnon dyfroedd.