Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66
  67. 67
  68. 68
  69. 69
  70. 70
  71. 71
  72. 72
  73. 73
  74. 74
  75. 75
  76. 76
  77. 77
  78. 78
  79. 79
  80. 80
  81. 81
  82. 82
  83. 83
  84. 84
  85. 85
  86. 86
  87. 87
  88. 88
  89. 89
  90. 90
  91. 91
  92. 92
  93. 93
  94. 94
  95. 95
  96. 96
  97. 97
  98. 98
  99. 99
  100. 100
  101. 101
  102. 102
  103. 103
  104. 104
  105. 105
  106. 106
  107. 107
  108. 108
  109. 109
  110. 110
  111. 111
  112. 112
  113. 113
  114. 114
  115. 115
  116. 116
  117. 117
  118. 118
  119. 119
  120. 120
  121. 121
  122. 122
  123. 123
  124. 124
  125. 125
  126. 126
  127. 127
  128. 128
  129. 129
  130. 130
  131. 131
  132. 132
  133. 133
  134. 134
  135. 135
  136. 136
  137. 137
  138. 138
  139. 139
  140. 140
  141. 141
  142. 142
  143. 143
  144. 144
  145. 145
  146. 146
  147. 147
  148. 148
  149. 149
  150. 150

Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 72 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

Salm i Solomon.

1. O Dduw, dod i'r Brenin dy farnedigaethau, ac i fab y Brenin dy gyfiawnder.

2. Efe a farn dy bobl mewn cyfiawnder, a'th drueiniaid â barn.

3. Y mynyddoedd a ddygant heddwch i'r bobl, a'r bryniau, trwy gyfiawnder.

4. Efe a farn drueiniaid y bobl, efe a achub feibion yr anghenus, ac a ddryllia y gorthrymydd.

5. Tra fyddo haul a lleuad y'th ofnant, yn oes oesoedd.

6. Efe a ddisgyn fel glaw ar gnu gwlân; fel cawodydd yn dyfrhau y ddaear.

7. Yn ei ddyddiau ef y blodeua y cyfiawn; ac amlder o heddwch fydd tra fyddo lleuad.

8. Ac efe a lywodraetha o fôr hyd fôr, ac o'r afon hyd derfynau y ddaear.

9. O'i flaen ef yr ymgryma trigolion yr anialwch: a'i elynion a lyfant y llwch.

10. Brenhinoedd Tarsis a'r ynysoedd a dalant anrheg: brenhinoedd Sheba a Seba a ddygant rodd.

11. Ie, yr holl frenhinoedd a ymgrymant iddo: yr holl genhedloedd a'i gwasanaethant ef.

12. Canys efe a wared yr anghenog pan waeddo: y truan hefyd, a'r hwn ni byddo cynorthwywr iddo.

13. Efe a arbed y tlawd a'r rheidus, ac a achub eneidiau y rhai anghenus.

14. Efe a wared eu henaid oddi wrth dwyll a thrawster: a gwerthfawr fydd eu gwaed yn ei olwg ef.

15. Byw hefyd fydd efe, a rhoddir iddo o aur Seba: gweddïant hefyd drosto ef yn wastad: beunydd y clodforir ef.

16. Bydd dyrnaid o ŷd ar y ddaear ym mhen y mynyddoedd: ei ffrwyth a ysgwyd fel Libanus; a phobl y ddinas a flodeuant fel gwellt y ddaear.

17. Ei enw fydd yn dragywydd: ei enw a bery tra fyddo haul; ac ymfendithiant ynddo: yr holl genhedloedd a'i galwant yn wynfydedig.

18. Bendigedig fyddo yr Arglwydd Dduw, Duw Israel, yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau.

19. Bendigedig hefyd fyddo ei enw gogoneddus ef yn dragywydd; a'r holl ddaear a lanwer o'i ogoniant. Amen, ac Amen.

20. Gorffen gweddïau Dafydd mab Jesse.