1. Paham yr ymffrosti mewn drygioni, O gadarn? y mae trugaredd Duw yn parhau yn wastadol.
2. Dy dafod a ddychymyg ysgelerder; fel ellyn llym, yn gwneuthur twyll.
3. Hoffaist ddrygioni yn fwy na daioni; a chelwydd yn fwy na thraethu cyfiawnder. Sela.
4. Hoffaist bob geiriau distryw, O dafod twyllodrus.
5. Duw a'th ddistrywia dithau yn dragywydd: efe a'th gipia di ymaith, ac a'th dynn allan o'th babell, ac a'th ddiwreiddia o dir y rhai byw. Sela.
6. Y cyfiawn hefyd a welant, ac a ofnant, ac a chwarddant am ei ben.
7. Wele y gŵr ni osododd Dduw yn gadernid iddo; eithr ymddiriedodd yn lluosowgrwydd ei olud, ac a ymnerthodd yn ei ddrygioni.
8. Ond myfi sydd fel olewydden werdd yn nhŷ Dduw: ymddiriedaf yn nhrugaredd Duw byth ac yn dragywydd.
9. Clodforaf di yn dragywydd, oherwydd i ti wneuthur hyn: a disgwyliaf wrth dy enw; canys da yw gerbron dy saint.