1. Arglwydd, yn dy nerth y llawenycha y Brenin; ac yn dy iachawdwriaeth di mor ddirfawr yr ymhyfryda!
2. Deisyfiad ei galon a roddaist iddo; a dymuniad ei wefusau nis gomeddaist. Sela.
3. Canys achubaist ei flaen ef â bendithion daioni: gosodaist ar ei ben ef goron o aur coeth.
4. Gofynnodd oes gennyt, a rhoddaist iddo: ie, hir oes, byth ac yn dragywydd.
5. Mawr yw ei ogoniant yn dy iachawdwriaeth: gosodaist arno ogoniant a phrydferthwch.
6. Canys gwnaethost ef yn fendithion yn dragwyddol; llawenychaist ef â llawenydd â'th wynepryd.
7. Oherwydd bod y Brenin yn ymddiried yn yr Arglwydd, a thrwy drugaredd y Goruchaf nid ysgogir ef.
8. Dy law a gaiff afael ar dy holl elynion: dy ddeheulaw a gaiff afael ar dy gaseion.
9. Ti a'u gwnei hwynt fel ffwrn danllyd yn amser dy lid: yr Arglwydd yn ei ddicllonedd a'u llwnc hwynt, a'r tân a'u hysa hwynt.
10. Eu ffrwyth hwynt a ddinistri di oddi ar y ddaear, a'u had o blith meibion dynion.
11. Canys bwriadasant ddrwg i'th erbyn: meddyliasant amcan, heb allu ohonynt ei gwblhau.
12. Am hynny y gwnei iddynt droi eu cefnau: ar dy linynnau y paratôi di saethau yn erbyn eu hwynebau.
13. Ymddyrcha, Arglwydd, yn dy nerth; canwn, a chanmolwn dy gadernid.