1. Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; cryned y bobloedd: eistedd y mae rhwng y ceriwbiaid; ymgynhyrfed y ddaear.
2. Mawr yw yr Arglwydd yn Seion, a dyrchafedig yw efe goruwch yr holl bobloedd.
3. Moliannant dy enw mawr ac ofnadwy; canys sanctaidd yw.
4. A nerth y Brenin a hoffa farn: ti a sicrhei uniondeb, barn a chyfiawnder a wnei di yn Jacob.
5. Dyrchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymwch o flaen ei ystôl draed ef: canys sanctaidd yw.
6. Moses ac Aaron ymhlith ei offeiriaid ef; a Samuel ymysg y rhai a alwant ar ei enw: galwasant ar yr Arglwydd, ac efe a'u gwrandawodd hwynt.
7. Llefarodd wrthynt yn y golofn gwmwl: cadwasant ei dystiolaethau, a'r ddeddf a roddodd efe iddynt.
8. Gwrandewaist arnynt, O Arglwydd ein Duw: Duw oeddit yn eu harbed, ie, pan ddielit am eu dychmygion.
9. Dyrchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymwch ar ei fynydd sanctaidd: canys sanctaidd yw yr Arglwydd ein Duw.