1. Dywedais, Cadwaf fy ffyrdd, rhag pechu â'm tafod: cadwaf ffrwyn yn fy ngenau, tra fyddo yr annuwiol yn fy ngolwg.
2. Tewais yn ddistaw, ie, tewais â daioni; a'm dolur a gyffrôdd.
3. Gwresogodd fy nghalon o'm mewn: tra yr oeddwn yn myfyrio, enynnodd tân, a mi a leferais â'm tafod.
4. Arglwydd, pâr i mi wybod fy niwedd, a pheth yw mesur fy nyddiau; fel y gwypwyf o ba oedran y byddaf fi.
5. Wele, gwnaethost fy nyddiau fel dyrnfedd; a'm heinioes sydd megis diddim yn dy olwg di: diau mai cwbl wagedd yw pob dyn, pan fo ar y gorau. Sela.
6. Dyn yn ddiau sydd yn rhodio mewn cysgod, ac yn ymdrafferthu yn ofer: efe a dyrra olud, ac nis gŵyr pwy a'i casgl.
7. Ac yn awr beth a ddisgwyliaf, O Arglwydd? fy ngobaith sydd ynot ti.
8. Gwared fi o'm holl gamweddau; ac na osod fi yn waradwydd i'r ynfyd.
9. Euthum yn fud, ac nid agorais fy ngenau: canys ti a wnaethost hyn.
10. Tyn dy bla oddi wrthyf: gan ddyrnod dy law y darfûm i.
11. Pan gosbit ddyn â cheryddon am anwiredd, datodit fel gwyfyn ei ardderchowgrwydd ef: gwagedd yn ddiau yw pob dyn. Sela.
12. Gwrando fy ngweddi, Arglwydd, a chlyw fy llef; na thaw wrth fy wylofain: canys ymdeithydd ydwyf gyda thi, ac alltud, fel fy holl dadau.
13. Paid â mi, fel y cryfhawyf cyn fy myned, ac na byddwyf mwy.