1. Yr ynfyd a ddywedodd yn ei galon, Nid oes un Duw. Ymlygrasant; ffieiddwaith a wnaethant: nid oes a wnêl ddaioni.
2. Yr Arglwydd a edrychodd i lawr o'r nefoedd ar feibion dynion, i weled a oedd neb deallgar, yn ymgeisio â Duw.
3. Ciliodd pawb; cydymddifwynasant: nid oes a wnêl ddaioni, nac oes un.
4. Oni ŵyr holl weithredwyr anwiredd? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl fel y bwytaent fara: ni alwasant ar yr Arglwydd.
5. Yno y dychrynasant gan ofn; canys y mae Duw yng nghenhedlaeth y cyfiawn.
6. Cyngor y tlawd a waradwyddasoch chwi; am fod yr Arglwydd yn obaith iddo.
7. Pwy a ddyry iachawdwriaeth i Israel o Seion! pan ddychwelo yr Arglwydd gaethiwed ei bobl, yr ymhyfryda Jacob, ac y llawenha Israel.