1. Nid i ni, O Arglwydd, nid i ni, ond i'th enw dy hun dod ogoniant, er mwyn dy drugaredd, ac er mwyn dy wirionedd.
2. Paham y dywedai y cenhedloedd, Pa le yn awr y mae eu Duw hwynt?
3. Ond ein Duw ni sydd yn y nefoedd: efe a wnaeth yr hyn a fynnodd oll.
4. Eu delwau hwy ydynt o aur ac arian, gwaith dwylo dynion.
5. Genau sydd iddynt, ond ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant:
6. Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; ffroenau sydd ganddynt, ond ni aroglant:
7. Dwylo sydd iddynt, ond ni theimlant; traed sydd iddynt, ond ni cherddant; ni leisiant chwaith â'u gwddf.
8. Y rhai a'u gwnânt ydynt fel hwythau, a phob un a ymddiriedo ynddynt.
9. O Israel, ymddiried di yn yr Arglwydd: efe yw eu porth a'u tarian.
10. Tŷ Aaron, ymddiriedwch yn yr Arglwydd: efe yw eu porth a'u tarian.
11. Y rhai a ofnwch yr Arglwydd, ymddiriedwch yn yr Arglwydd: efe yw eu porth a'u tarian.
12. Yr Arglwydd a'n cofiodd ni: efe a'n bendithia: bendithia efe dŷ Israel; bendithia efe dŷ Aaron.
13. Bendithia efe y rhai a ofnant yr Arglwydd, fychain a mawrion.
14. Yr Arglwydd a'ch chwanega chwi fwyfwy, chwychwi a'ch plant hefyd.
15. Bendigedig ydych chwi gan yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nef a daear.
16. Y nefoedd, ie, y nefoedd ydynt eiddo yr Arglwydd: a'r ddaear a roddes efe i feibion dynion.
17. Y meirw ni foliannant yr Arglwydd, na'r neb sydd yn disgyn i ddistawrwydd.
18. Ond nyni a fendithiwn yr Arglwydd o hyn allan ac yn dragywydd. Molwch yr Arglwydd.