1. Yn ddiau da yw Duw i Israel; sef i'r rhai glân o galon.
2. Minnau, braidd na lithrodd fy nhraed: prin na thripiodd fy ngherddediad.
3. Canys cenfigennais wrth y rhai ynfyd, pan welais lwyddiant y rhai annuwiol.
4. Canys nid oes rhwymau yn eu marwolaeth; a'u cryfder sydd heini.
5. Nid ydynt mewn blinder fel dynion eraill; ac ni ddialeddir arnynt hwy gyda dynion eraill.
6. Am hynny y cadwynodd balchder hwynt, ac y gwisg trawster amdanynt fel dilledyn.
7. Eu llygaid a saif allan gan fraster: aethant dros feddwl calon o gyfoeth.
8. Y maent wedi llygru, yn chwedleua yn ddrygionus am drawster; yn dywedyd yn uchel.
9. Gosodasant eu genau yn erbyn y nefoedd: a'u tafod a gerdd trwy y ddaear.
10. Am hynny y dychwel ei bobl ef yma; ac y gwesgir iddynt ddwfr ffiol lawn.
11. Dywedant hefyd, Pa fodd y gŵyr Duw? a oes gwybodaeth gan y Goruchaf?
12. Wele, dyma y rhai annuwiol, a'r rhai sydd lwyddiannus yn y byd, ac a amlhasant olud.
13. Diau mai yn ofer y glanheais fy nghalon, ac y golchais fy nwylo mewn diniweidrwydd.
14. Canys ar hyd y dydd y'm maeddwyd; fy ngherydd a ddeuai bob bore.
15. Os dywedwn, Mynegaf fel hyn; wele, â chenhedlaeth dy blant di y gwnawn gam.
16. Pan amcenais wybod hyn, blin oedd hynny yn fy ngolwg i;
17. Hyd onid euthum i gysegr Duw: yna y deellais eu diwedd hwynt.
18. Diau osod ohonot hwynt mewn llithrigfa, a chwympo ohonot hwynt i ddinistr.
19. Mor ddisymwth yr aethant yn anghyfannedd! pallasant, a darfuant gan ofn.
20. Fel breuddwyd wrth ddihuno un; felly, O Arglwydd, pan ddeffroech, y dirmygi eu gwedd hwynt.
21. Fel hyn y gofidiodd fy nghalon, ac y'm pigwyd yn fy arennau.
22. Mor ynfyd oeddwn, ac heb wybod; anifail oeddwn o'th flaen di.
23. Eto yr ydwyf yn wastad gyda thi: ymaflaist yn fy llaw ddeau.
24. A'th gyngor y'm harweini; ac wedi hynny y'm cymeri i ogoniant.
25. Pwy sydd gennyf fi yn y nefoedd ond tydi? ac ni ewyllysiais ar y ddaear neb gyda thydi.
26. Pallodd fy nghnawd a'm calon: ond nerth fy nghalon a'm rhan yw Duw yn dragywydd.
27. Canys wele, difethir y rhai a bellhânt oddi wrthyt: torraist ymaith bob un a buteinio oddi wrthyt.
28. Minnau, nesáu at Dduw sydd dda i mi: yn yr Arglwydd Dduw y gosodais fy ngobaith, i draethu dy holl weithredoedd.