1. O'r dyfnder y llefais arnat, O Arglwydd.
2. Arglwydd, clyw fy llefain; ystyried dy glustiau wrth lef fy ngweddïau.
3. Os creffi ar anwireddau, Arglwydd, O Arglwydd, pwy a saif?
4. Ond y mae gyda thi faddeuant, fel y'th ofner.
5. Disgwyliaf am yr Arglwydd, disgwyl fy enaid, ac yn ei air ef y gobeithiaf.
6. Fy enaid sydd yn disgwyl am yr Arglwydd yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore; yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore.
7. Disgwylied Israel am yr Arglwydd; oherwydd y mae trugaredd gyda'r Arglwydd, ac aml ymwared gydag ef.
8. Ac efe a wared Israel oddi wrth ei holl anwireddau.