1. Yr hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf, a erys yng nghysgod yr Hollalluog.
2. Dywedaf am yr Arglwydd, Fy noddfa a'm hamddiffynfa ydyw: fy Nuw; ynddo yr ymddiriedaf.
3. Canys efe a'th wareda di o fagl yr heliwr, ac oddi wrth haint echryslon.
4. A'i asgell y cysgoda efe trosot, a than ei adenydd y byddi ddiogel: ei wirionedd fydd darian ac astalch i ti.
5. Nid ofni rhag dychryn nos; na rhag y saeth a ehedo y dydd:
6. Na rhag yr haint a rodio yn y tywyllwch; na rhag y dinistr a ddinistrio ganol dydd.
7. Wrth dy ystlys y cwymp mil, a deng mil wrth dy ddeheulaw: ond ni ddaw yn agos atat ti.
8. Yn unig ti a ganfyddi â'th lygaid, ac a weli dâl y rhai annuwiol.
9. Am i ti wneuthur yr Arglwydd fy noddfa, sef y Goruchaf, yn breswylfa i ti;
10. Ni ddigwydd i ti niwed, ac ni ddaw pla yn agos i'th babell.
11. Canys efe a orchymyn i'w angylion amdanat ti, dy gadw yn dy holl ffyrdd.
12. Ar eu dwylo y'th ddygant rhag taro dy droed wrth garreg.
13. Ar y llew a'r asb y cerddi: y cenau llew a'r ddraig a fethri.
14. Am iddo roddi ei serch arnaf, am hynny y gwaredaf ef: dyrchafaf ef, am iddo adnabod fy enw.
15. Efe a eilw arnaf, a mi a'i gwrandawaf: mewn ing y byddaf fi gydag ef, y gwaredaf, ac y gogoneddaf ef.
16. Digonaf ef â hir ddyddiau; a dangosaf iddo fy iachawdwriaeth.