1. Molwch yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd o'r nefoedd: molwch ef yn yr uchelderau.
2. Molwch ef, ei holl angylion: molwch ef, ei holl luoedd.
3. Molwch ef, haul a lleuad: molwch ef, yr holl sêr goleuni.
4. Molwch ef, nef y nefoedd; a'r dyfroedd y rhai ydych oddi ar y nefoedd.
5. Molant enw yr Arglwydd: oherwydd efe a orchmynnodd, a hwy a grewyd.
6. A gwnaeth iddynt barhau byth yn dragywydd: gosododd ddeddf, ac nis troseddir hi.
7. Molwch yr Arglwydd o'r ddaear, y dreigiau, a'r holl ddyfnderau:
8. Tân a chenllysg, eira a tharth; gwynt ystormus, yn gwneuthur ei air ef:
9. Y mynyddoedd a'r bryniau oll; y coed ffrwythlon a'r holl gedrwydd:
10. Y bwystfilod a phob anifail; yr ymlusgiaid ac adar asgellog:
11. Brenhinoedd y ddaear a'r holl bobloedd; tywysogion a holl farnwyr y byd:
12. Gwŷr ieuainc a gwyryfon hefyd; hynafgwyr a llanciau:
13. Molant enw yr Arglwydd: oherwydd ei enw ef yn unig sydd ddyrchafadwy; ei ardderchowgrwydd ef sydd uwchlaw daear a nefoedd.
14. Ac efe sydd yn dyrchafu corn ei bobl, moliant ei holl saint; sef meibion Israel, pobl agos ato. Molwch yr Arglwydd.