1. O Dduw, bwriaist ni ymaith, gwasgeraist ni, a sorraist: dychwel atom drachefn.
2. Gwnaethost i'r ddaear grynu, a holltaist hi: iachâ ei briwiau; canys y mae yn crynu.
3. Dangosaist i'th bobl galedi: diodaist ni â gwin madrondod.
4. Rhoddaist faner i'r rhai a'th ofnant, i'w dyrchafu oherwydd y gwirionedd. Sela.
5. Fel y gwareder dy rai annwyl: achub â'th ddeheulaw, a gwrando fi.
6. Duw a lefarodd yn ei sancteiddrwydd, Llawenychaf: rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth.
7. Eiddof fi yw Gilead, ac eiddof fi Manasse: Effraim hefyd yw nerth fy mhen; Jwda yw fy neddfwr.
8. Moab yw fy nghrochan golchi; dros Edom y bwriaf fy esgid: Philistia, ymorfoledda di o'm plegid i.
9. Pwy a'm dwg i'r ddinas gadarn? pwy a'm harwain hyd yn Edom?
10. Onid tydi, Dduw, yr hwn a'n bwriaist ymaith? a thydi, O Dduw, yr hwn nid ait allan gyda'n lluoedd?
11. Moes i ni gynhorthwy rhag cyfyngder: canys ofer yw ymwared dyn.
12. Yn Nuw y gwnawn wroldeb: canys efe a sathr ein gelynion.