1. Oni buasai yr Arglwydd yr hwn a fu gyda ni, y gall Israel ddywedyd yn awr;
2. Oni buasai yr Arglwydd yr hwn a fu gyda ni, pan gyfododd dynion yn ein herbyn:
3. Yna y'n llyncasent ni yn fyw, pan enynnodd eu llid hwynt i'n herbyn:
4. Yna y dyfroedd a lifasai drosom, y ffrwd a aethai dros ein henaid:
5. Yna yr aethai dros ein henaid ddyfroedd chwyddedig.
6. Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn ni roddodd ni yn ysglyfaeth i'w dannedd hwynt.
7. Ein henaid a ddihangodd fel aderyn o fagl yr adarwyr: y fagl a dorrwyd, a ninnau a ddianghasom.
8. Ein porth ni sydd yn enw yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear.