1. Gostwng, O Arglwydd, dy glust, gwrando fi: canys truan ac anghenus ydwyf.
2. Cadw fy enaid; canys sanctaidd ydwyf: achub di dy was, O fy Nuw, yr hwn sydd yn ymddiried ynot.
3. Trugarha wrthyf, Arglwydd: canys arnat y llefaf beunydd.
4. Llawenha enaid dy was: canys atat ti, Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid.
5. Canys ti, O Arglwydd, ydwyt dda, a maddeugar; ac o fawr drugaredd i'r rhai oll a alwant arnat.
6. Clyw, Arglwydd, fy ngweddi; ac ymwrando â llais fy ymbil.
7. Yn nydd fy nghyfyngder y llefaf arnat: canys gwrandewi fi.
8. Nid oes fel tydi ymysg y duwiau, O Arglwydd; na gweithredoedd fel dy weithredoedd di.
9. Yr holl genhedloedd y rhai a wnaethost a ddeuant, ac a addolant ger dy fron di, O Arglwydd; ac a ogoneddant dy enw.
10. Canys ydwyt fawr, ac yn gwneuthur rhyfeddodau: ti yn unig wyt Dduw.
11. Dysg i mi dy ffordd, O Arglwydd; mi a rodiaf yn dy wirionedd: una fy nghalon i ofni dy enw.
12. Moliannaf di, O Arglwydd fy Nuw, â'm holl galon: a gogoneddaf dy enw yn dragywydd.
13. Canys mawr yw dy drugaredd tuag ataf fi: a gwaredaist fy enaid o uffern isod.
14. Rhai beilchion a gyfodasant i'm herbyn, O Dduw, a chynulleidfa y trawsion a geisiasant fy enaid; ac ni'th osodasant di ger eu bron.
15. Eithr ti, O Arglwydd, wyt Dduw trugarog a graslon; hwyrfrydig i lid, a helaeth o drugaredd a gwirionedd.
16. Edrych arnaf, a thrugarha wrthyf: dyro dy nerth i'th was, ac achub fab dy wasanaethferch.
17. Gwna i mi arwydd er daioni: fel y gwelo fy nghaseion, ac y gwaradwydder hwynt; am i ti, O Arglwydd, fy nghynorthwyo a'm diddanu.