1. Duw sydd noddfa a nerth i ni, cymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder.
2. Am hynny nid ofnwn pe symudai y ddaear, a phe treiglid y mynyddoedd i ganol y môr:
3. Er rhuo a therfysgu o'i ddyfroedd, er crynu o'r mynyddoedd gan ei ymchwydd ef. Sela.
4. Y mae afon, a'i ffrydiau a lawenhânt ddinas Duw; cysegr preswylfeydd y Goruchaf.
5. Duw sydd yn ei chanol; nid ysgog hi: Duw a'i cynorthwya yn fore iawn.
6. Y cenhedloedd a derfysgasant, y teyrnasoedd a ysgogasant: efe a roddes ei lef, toddodd y ddaear.
7. Y mae Arglwydd y lluoedd gyda ni; y mae Duw Jacob yn amddiffynfa i ni. Sela.
8. Deuwch, gwelwch weithredoedd yr Arglwydd; pa anghyfanhedd‐dra a wnaeth efe ar y ddaear.
9. Gwna i ryfeloedd beidio hyd eithaf y ddaear; efe a ddryllia y bwa, ac a dyr y waywffon, efe a lysg y cerbydau â thân.
10. Peidiwch, a gwybyddwch mai myfi sydd Dduw: dyrchefir fi ymysg y cenhedloedd, dyrchefir fi ar y ddaear.
11. Y mae Arglwydd y lluoedd gyda ni; amddiffynfa i ni yw Duw Jacob. Sela.