1. Yr holl bobl, curwch ddwylo; llafargenwch i Dduw â llef gorfoledd.
2. Canys yr Arglwydd goruchaf sydd ofnadwy; Brenin mawr ar yr holl ddaear.
3. Efe a ddwg y bobl danom ni, a'r cenhedloedd dan ein traed.
4. Efe a ddethol ein hetifeddiaeth i ni, ardderchowgrwydd Jacob, yr hwn a hoffodd efe. Sela.
5. Dyrchafodd Duw â llawen floedd, yr Arglwydd â sain utgorn.
6. Cenwch fawl i Dduw, cenwch: cenwch fawl i'n Brenin, cenwch.
7. Canys Brenin yr holl ddaear yw Duw: cenwch fawl yn ddeallus.
8. Duw sydd yn teyrnasu ar y cenhedloedd: eistedd y mae Duw ar orseddfainc ei sancteiddrwydd.
9. Pendefigion y bobl a ymgasglasant ynghyd, sef pobl Duw Abraham: canys tarianau y ddaear ydynt eiddo Duw: dirfawr y dyrchafwyd ef.