1. Dyrchafaf di, fy Nuw, O Frenin; a bendithiaf dy enw byth ac yn dragywydd.
2. Beunydd y'th fendithiaf; a'th enw a folaf byth ac yn dragywydd.
3. Mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn; a'i fawredd sydd anchwiliadwy.
4. Cenhedlaeth wrth genhedlaeth a fawl dy weithredoedd, ac a fynega dy gadernid.
5. Ardderchowgrwydd gogoniant dy fawredd, a'th bethau rhyfedd, a draethaf.
6. Traethant hwy gadernid dy weithredoedd ofnadwy: mynegaf finnau dy fawredd.
7. Coffadwriaeth amlder dy ddaioni a draethant; a'th gyfiawnder a ddatganant.
8. Graslon a thrugarog yw yr Arglwydd; hwyrfrydig i ddig, a mawr ei drugaredd.
9. Daionus yw yr Arglwydd i bawb: a'i drugaredd sydd ar ei holl weithredoedd.
10. Dy holl weithredoedd a'th glodforant, O Arglwydd; a'th saint a'th fendithiant.
11. Dywedant am ogoniant dy frenhiniaeth; a thraethant dy gadernid:
12. I beri i feibion dynion adnabod ei gadernid ef, a gogoniant ardderchowgrwydd ei frenhiniaeth.
13. Dy frenhiniaeth di sydd frenhiniaeth dragwyddol: a'th lywodraeth a bery yn oes oesoedd.
14. Yr Arglwydd sydd yn cynnal y rhai oll a syrthiant, ac sydd yn codi pawb a ddarostyngwyd.
15. Llygaid pob peth a ddisgwyliant wrthyt; ac yr ydwyt yn rhoddi eu bwyd iddynt yn ei bryd;
16. Gan agoryd dy law, a diwallu pob peth byw â'th ewyllys da.
17. Cyfiawn yw yr Arglwydd yn ei holl ffyrdd, a sanctaidd yn ei holl weithredoedd.
18. Agos yw yr Arglwydd at y rhai oll a alwant arno, at y rhai oll a alwant arno mewn gwirionedd.
19. Efe a wna ewyllys y rhai a'i hofnant: gwrendy hefyd eu llefain, ac a'u hachub hwynt.
20. Yr Arglwydd sydd yn cadw pawb a'i carant ef; ond yr holl rai annuwiol a ddifetha efe.
21. Traetha fy ngenau foliant yr Arglwydd: a bendithied pob cnawd ei enw sanctaidd ef byth ac yn dragywydd.