1. Dadlau fy nadl, Arglwydd, yn erbyn y rhai a ddadleuant i'm herbyn: ymladd â'r rhai a ymladdant â mi.
2. Ymafael yn y darian a'r astalch, a chyfod i'm cymorth.
3. Dwg allan y waywffon, ac argaea yn erbyn fy erlidwyr: dywed wrth fy enaid, Myfi yw dy iachawdwriaeth.
4. Cywilyddier a gwaradwydder y rhai a geisiant fy enaid: ymchweler yn eu hôl a gwarthaer y sawl a fwriadant fy nrygu.
5. Byddant fel us o flaen y gwynt: ac angel yr Arglwydd yn eu herlid.
6. Bydded eu ffordd yn dywyllwch ac yn llithrigfa: ac angel yr Arglwydd yn eu hymlid.
7. Canys heb achos y cuddiasant eu rhwyd i mi mewn pydew, yr hwn heb achos a gloddiasant i'm henaid.
8. Deued arno ddistryw ni wypo; a'i rwyd yr hon a guddiodd, a'i dalio: syrthied yn y distryw hwnnw.
9. A llawenycha fy enaid i yn yr Arglwydd: efe a ymhyfryda yn ei iachawdwriaeth ef.
10. Fy holl esgyrn a ddywedant, O Arglwydd, pwy sydd fel tydi, yn gwaredu y tlawd rhag yr hwn a fyddo drech nag ef: y truan hefyd a'r tlawd, rhag y neb a'i hysbeilio?
11. Tystion gau a gyfodasant: holasant i mi yr hyn nis gwn oddi wrtho.
12. Talasant i mi ddrwg dros dda, i ysbeilio fy enaid.
13. A minnau, pan glafychent hwy, oeddwn â'm gwisg o sachlen: gostyngais fy enaid ag ympryd, a'm gweddi a ddychwelodd i'm mynwes fy hun.
14. Ymddygais fel pe buasai yn gyfaill, neu yn frawd i mi: ymostyngais mewn galarwisg, fel un yn galaru am ei fam.
15. Ond ymlawenhasant hwy yn fy adfyd i, ac ymgasglasant; ie, ymgasglodd efryddion yn fy erbyn, ac nis gwyddwn; rhwygasant fi, ac ni pheidient.
16. Ymysg y gwatwarwyr rhagrithiol mewn gwleddoedd, ysgyrnygasant eu dannedd arnaf.
17. Arglwydd, pa hyd yr edrychi di ar hyn? gwared fy enaid rhag eu distryw hwynt, fy unig enaid rhag y llewod.
18. Mi a'th glodforaf yn y gynulleidfa fawr: moliannaf di ymhlith pobl lawer.
19. Na lawenychant o'm herwydd y rhai sydd elynion i mi heb achos: y sawl a'm casânt yn ddiachos, nac amneidiant â llygad.
20. Gan nad ymddiddanant yn dangnefeddus; eithr dychmygant eiriau dichellgar yn erbyn y rhai llonydd yn y tir.
21. Lledasant eu safn arnaf, gan ddywedyd, Ha, ha, gwelodd ein llygad.
22. Gwelaist hyn, Arglwydd: na thaw dithau; nac ymbellha oddi wrthyf, O Arglwydd.
23. Cyfod, a deffro i'm barn, sef i'm dadl, fy Nuw a'm Harglwydd.
24. Barn fi, Arglwydd fy Nuw, yn ôl dy gyfiawnder; ac na lawenhânt o'm plegid.
25. Na ddywedant yn eu calon, O ein gwynfyd: na ddywedant, Llyncasom ef.
26. Cywilyddier a gwaradwydder hwy i gyd, y rhai sydd lawen am fy nrygfyd: gwisger â gwarth ac â chywilydd y rhai a ymfawrygant i'm herbyn.
27. Caned a llawenyched y rhai a hoffant fy nghyfiawnder: dywedant hefyd yn wastad, Mawryger yr Arglwydd, yr hwn a gâr lwyddiant ei was.
28. Fy nhafod innau a lefara am dy gyfiawnder a'th foliant ar hyd y dydd.